Cenedlaetholdeb Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Llinell 1:
'''Cenedlaetholdeb Cymreig''' yw'r mudiad [[cenedlaetholdeb|cenedlaetholgar]] [[gwleidyddiaeth|gwleidyddol]] a [[diwylliant|diwylliannol]] o blaid hawliau i'r [[Cymraeg|Gymraeg]], cydraddoldeb [[crefydd]]ol, ac [[ymreolaeth]] leol yng [[Cymru|Nghymru]]. Er bod rhyw syniad o genedlaetholdeb wedi bodoli yng Nghymru ers canrifoedd (yn enwedig o dan ymosodiadau goresgynwyr, e.e. [[y Saeson]], [[y Normaniaid]]), daeth cenedlaetholdeb Cymreig modern i'r amlwg yn ail hanner [[19eg ganrif|y bedwaredd ganrif ar bymtheg]] wrth i'r [[Cymry]] cael eu calonogi gan fudiadau cenedlaetholgar ar draws [[Ewrop]], megis yn [[Iwerddon]], [[yr Eidal]] a [[Hwngari]]. Lledaenodd cysyniadau cenedlaetholgar gyda thwf [[anghydffurfiaeth yng Nghymru]] a theimladau gwrth-[[Lloegr|Seisnig]] yn dilyn [[Brad y Llyfrau Gleision]] a cheisiadau eraill gan lywodraeth Lloegr i [[Seisnigo]]'r wlad.
 
==Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg==
{{gweler|Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru}}
===Brad y Llyfrau Gleision===
{{prif|Brad y Llyfrau Gleision}}
Cynyddodd teimladau cenedlaethol a gwrth-Seisnig yn [[1847]] gyda chyflwyniad adroddiad a gomisiynwyd gan senedd [[San Steffan]] ar gyflwr [[addysg yng Nghymru]], a elwir yn Frad y Llyfrau Gleision oherwydd lliw clawr yr adroddiad. Dywedodd yr adroddiad bod cyflwr y system addysg yn y wlad yn wael iawn a cheir bortread negyddol o'r [[Cymry]] a'u hiaith, ond barn gul y [[Saeson]] [[Saesneg]] a ysgrifennodd yr adroddiad oedd hyn.
 
===Cymru Fydd===
{{prif|Cymru Fydd}}
Ymgyrchodd y blaid wladgarol [[Cymru Fydd]] am [[hunanlywodraeth]] Gymreig, o fewn cyd-destun gwleidyddiaeth [[rhyddfrydiaeth|ryddfrydig]], rhwng [[1886]] a [[1896]]. Un o'u hamcanion oedd [[datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]], a ddaeth yn realiti yn [[1920]] gyda dyfodiad [[yr Eglwys yng Nghymru]].
 
==Yr Ugeinfed Ganrif==
Llinell 10 ⟶ 20:
 
[[en:Welsh nationalism]]
[[gl:Nacionalismo galés]]