Serch llys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn tynnu: hu:Amour courtois
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Image:Meister der Manessischen Liederhandschrift 001.jpg|200px|bawd|Marchog yn derbyn ei arfau gan ei Arglwyddes, [[Codex Manesse]]]]
 
Math o [[serch]] rhamantaidd a gawsai ei foli, ei feithrin a'i ddyrchafu yn y [[llys]]oedd brenhinol a phlasauphlasdai uchelwyr yw serch llys. Daw i'r golwg fel confensiwn am y tro cyntaf yn ardal [[Profens]] (de [[Ffrainc]]) yn gynnar yn y 12fed ganrif, ond mae ei wreiddiau'n hŷn a cheir cysyniad cyffelyb yng ngwaith rhai beirdd [[Arabiaid|Arabaidd]] cynharach hefyd, yn enwedig y Mwriaid yn [[Andalucia]]. Credir fod barddoniaeth y bardd Rhufeinig [[Ofydd]] yn ddylanwad pwysig arall. CafoddRoedd yn cael ei fynegi mewn [[rhyddiaith]] a [[barddoniaeth]].
 
Ymledodd o Brofens ar draws orllewingorllewin Ewrop, i wledydd Prydain, gogledd Ffrainc (gwaith y [[Trouvères]] a [[Chrétien de Troyes]] er enghraifft), yr Almaen (y [[Minnesänger]]) a'r Eidal (y [[Stilnovisti]] a gwaith [[Dante]]) a thu hwnt. Yng Nghymru gwelir ei ddylanwad yn amlycaf ar rai agweddau aro waith [[Dafydd ap Gwilym]] ac eraill o'r [[cywydd]]wyr ac yn y [[Tair Rhamant]]. Yn yr olaf, ac yn y rhamantau [[Arthur]]aidd yn gyffredinol, gwelir cydblethu serch llys a nodweddion [[Celt]]aidd.
 
Ceir enghreifftiau da o gonfensiynau serch llys yng nghanu y [[Trwbadwr]]iaid a chafodd ddylanwad ar Gymru hefyd, o gyfnod [[Beirdd y Tywysogion]] ymlaen. Traddodiad arall a geir yn rhai o'r cerddi poblogaidd gan y ''[[clerici vagantes]]'' ("clerigwyr crwydrol" neu [[Goliardaid]]), er bod olion dylanwad serch llys, wedi ei wrthdroi gan amlaf, i'w gweld yno hefyd.