Cafodd droedigaeth wrth wrando ar [[HywelHowel Harris]] yn pregethu yn [[Talgarth|Nhalgarth]] yn [[1737]]. Er iddo fod yn gurad i [[Theophilus Evans]] am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn [[Eglwys Loegr]] yn [[1743]] oherwydd ei gysylltiadau â'r [[Methodistiaid]]. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â [[Daniel Rowland]] a HywelHowel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn [[18fed ganrif|y ddeunawfed ganrif]]. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn [[19eg ganrif|y bedwaredd ganrif ar bymtheg]] a'r [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]]. Saif ''Capel Coffa William Williams Pantycelyn'' yn [[Llanymddyfri]]. Claddwyd ef yn Eglwys [[Llanfair-ar-y-bryn]] ar gyrion tref Llanymddyfri.