Annibynwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
000peter (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Cyfnod yr Adfywio: howel > hywel
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 000peter (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Amirobot.
Llinell 27:
 
=== Cyfnod yr Adfywio ===
[[Delwedd:Howell harris.jpg|150px|bawd|chwith|[[HywelHowel Harris]]]]
Ym 1735, cafodd dyn ifanc o Sir Frycheiniog o’r enw [[HywelHowel Harris]] dröedigaeth mewn gwasanaeth yn eglwys [[Talgarth]]. Wedi ei argyhoeddi o wirioneddau’r Efengyl, aeth Harris i’r priffyrdd a’r caeau i’w chyhoeddi. Yn ddiweddarach, daeth tröedigaeth Harris i’w gweld fel man cychwyn y Diwygiad Efengylaidd yng Nghymru.
 
Er bod Harris a nifer dda o’r pregethwyr efengylaidd eraill yn perthyn i’r [[Eglwys Loegr|Eglwys Sefydledig]], cawsant gryn gefnogaeth gan yr Ymneilltuwyr. Gwelwyd dylanwad y Diwygiad nid yn unig ar eglwysi Annibynnol a oedd eisoes yn bodoli cyn i’r Diwygiad ddechrau, ond hefyd wrth i seiadau [[Methodistiaeth|Methodistaidd]] bellhau oddi wrth yr Eglwys Sefydledig a throi’n eglwysi Annibynnol newydd.