Castell Dinefwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
bocs
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mae '''Castell Dinefwr''' yn un o gestyll y tywysogion Cymreig, ar safle prif ganolfan teyrnas [[Deheubarth]]. Saif uwchben [[Afon Tywi]] gerllaw [[Llandeilo]], [[Sir Gaerfyrddin]], rai cannoedd o droedfeddi uwch yr afon.
 
Yn ôl y traddodiad, adeiladawyd castell ar y safle yma gan [[Rhodri Mawr]], ond nid oes olinolion o'r cyfnod yma. Yn ddiweddarach, Dinefwr oedd prif lŷs ŵyr Rhodri, [[Hywel Dda]], brenin cyntaf Deheubarth ac yn nes ymlaen brenin y rhan fwyaf o Gymru. Credir i'r castell gael ei ail-adeiladu gan [[Rhys ap Gruffudd]]. Mae [[Gerallt Gymro]] yn adrodd stori am [[Harri II, brenin Lloegr]] yn cynllunio ymosodiad ar y castell yn ystod ymgyrch yn erbyn Rhys ac yn anfon un o'i ŵyr i archwilio'r tir, gyda chlerigwr o Gymro fel arweinydd iddo. Gofynnwyd i'r clerigwr ei arwain at y castell ar hyd y ffordd hawddaf, ond yn lle hynny aeth ag ef ar hyd y ffordd anoddaf posibl, gan ddiweddu'r perfformiad trwy aros i fwyta glaswellt, gan egluro i'w gydymaith mai dyma oedd bwyd y bobl leol mewn amseroedd celyd. Penderfynodd y brenin beisio ymosod ar y castell.
 
Ar farwolaeth Rhys ap Gruffudd daeth y castell yn eiddo i'w fab, [[Rhys Gryg]], a chredir fod rhannau cynharaf y castell presennol yn dyddio i'w gyfnod ef. Erbyn hyn yr oedd [[Llywelyn Fawr]] o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] yn ymestyn ei awdurdod i'r ardaloedd hyn, a chan bod Rhys yn rhy wan i'w wrthsefyll, dymchwelodd y castell. Ail-adeiladodd Llywelyn y castell a chadwodd ef yn ei feddiant hyd ei farwolaeth yn [[1240]]. Yn 1255 rhoddodd [[Llywelyn ap Gruffudd]] gastell Dinefwr i [[Rhys Fychan]], yna'n ddiweddarach rhoddodd ef i [[Maredudd ap Rhys]] cyn ei ddychwelyd i Rhys Fychan. Digiodd hyn Maredudd, a daeth yn gefnogwr [[Edward I, brenin Lloegr]], gan helpu Edward i gipio Dinefwr yn 1277. Mae'n ymddangos fod Maredudd wedi cael addewid y byddai'n cael cadw Dinefwr, ond torrodd Edward ei addewid. ac yn 1291 gorchymynodd ddienyddio Maredudd.