Maredudd ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Maredudd ab Owain''' (bu farw [[999]]) yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Deheubarth]].
 
Roedd Maredydd yn fab i [[Owain ap Hywel|Owain ap Hywel Dda]], brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredydd ei le, ac yn [[986]] llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo [[Cadwallon ab Ieuaf]]. Yr oedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, [[Hywel Dda]] ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn [[988]] daeth Maredydd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw [[Gwent]] a [[Morgannwg]] yn rhan o'i deyrnas.
 
Mae cofnod amdano yn ymosod ae sefydliadau gwyr [[Mercia]] ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymeryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r [[Llychlynwyr]]. Yr oedd ymosodiadau y Daniaid yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredydd. Yn [[987]] ymosododd Godfrey Haroldson ar [[Ynys Môn]] gan ladd mil o wyr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.