Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tarddiad gwerin"

Ychwanegwyd 22 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
tacluso
BNo edit summary
(tacluso)
Mae '''tarddiad gwerin''' yn cyfeirio at ddadansoddiad o [[tarddiad|darddiad]] gair sy ddim yn gyson â'i darddiad hanesyddol. Yn aml mae tarddiadau gwerin yn ymddangos oherwydd bod siaradwyr yn gweld neu yn dychmygu tebygrwydd rhwng geiriau sy'n awgrymu perthynas rhyngddynt, er nad oedd perthynas o'r fath yn hanesyddol. Mae rhai tarddiadau gwerin yn dod yn lled gyffredin. Gall tarddiad gwerin arwain at newid i ffurf y gair i adlewyrchu'r dadansoddiad newydd ohono neu ffurfiau newydd eraill wedi'u seilio ar y dadansoddiad. Er enghraifft:
 
* Mae'r gair ([[Tafodiaith|tafodieithol]]) [[Cymraeg]] ''cadben'' neu ''cadpen'' yn adlewyrchu ffrwyth tarddiad gwerin. [[Benthyciad]] ydyw o'r [[Saesneg]] ''captain'' fel ''capten'', wedi'i ddeall fel [[gair cyfansawdd]] o ''cad'' 'brywdr' a ''pen'' 'arweinydd' ac yn newid ei ffurf i adlewyrchu hyn (''Geiriadur Prifysgol Cymru'' 421, ''capten'').
 
* Cafodd y gair ''mwnci'' ei ddeall fel gair cyfansawdd o ''mwng'' a ''ci'' mewn rhai [[tafodiaith|tafodieithoedd]], er enghraifft [[tafodiaiethtafodiaith Bangor|Bangor]] ([[Osbert Fynes-Clinton|Fynes-Clinton]] 1913: 382), ac felly crëwyd y ffurfiau [[lluosog]] ''mwncwn'' neu ''myncwn'' yn y tafodieithoed hyn (''Geiriadur Prifysgol Cymru'' 2509–10, ''mwnci'').
 
Mae'r newidiadau hyn yn fath ar [[cydweddiad|gydweddiad]]. Gwelir tarddiad gwerin weithiau fel camgydweddiad.
Defnyddiwr anhysbys