Gogynfeirdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Gogynfeirdd''' yw'r enw traddodiadol ers y [[18fed ganrif|ddeunawfed ganrif]] ar y beirdd hynny a ganai yn y cyfnod rhwng y [[Cynfeirdd]] ac oes y [[cywyddwyr]] a [[Beirdd yr Uchelwyr]]. I bob pwrpas mae'n golygu [[Beirdd y Tywysogion]], sef y beirdd a ganai yn [[Oes y Tywysogion]], rhwng hanner cyntaf y [[11eg ganrif]] a cholli annibyniaeth Cymru yn [[1282]]. Fe'i gelwid yn Ogynfeirdd ('beirdd go gynnar') mewn cyferbyniaeth â'r Cynfeirdd cynharach. [[Lewis Morris]] oedd un o'r cyntaf i ddefnyddio'r gair. Ond mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau i gynnwys hefyd ambell fardd a ganai ar ddiwedd y [[13eg ganrif]] ac yn negawdau cynnar y ganrif olynol, e.e. [[Casnodyn]], [[Gwilym Ddu o Arfon]] a [[Gruffudd ap Dafydd ap Tudur]].
 
Yn y [[llawysgrifau Cymreig]] enwir sawl bardd arall a ganai yn y cyfnod hwnnw, yn ôl traddodiad, ond mae eu gwaith naill ai ar goll neu'n perthyn i gyfnod diweddarach. Y pwysicaf o'r 'beirdd coll' hyn yw'r [[brudiwr]] [[Adda Fras]].
 
Doedd 'na ddim toriad sydyn rhwng cyfnod y Gogynfeirdd a chyfnod Beirdd yr Uchelwyr, a gwelir rhai nodweddion o'u gwaith, megis cystrawen astrus, geirfa hynafiaethol ac ati, yng ngwaith beirdd hanner cyntaf y [[14eg ganrif]].