Elfodd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
:'Elbodug archiescopus Guenedotae regione migravit ad Dominum' (Bu farw - yn llythrennol 'aeth at Dduw' - Elfodd, archesgob rhanbarth Gwynedd)
 
Yn ôl traddodiad cafodd ei urddo'n [[Esgob Bangor]] yn [[755]], ond mae haneswyr yn amheus am ddilysrwydd hynny. Mae'r enw 'archiescopus Guenedotae' yn amwys hefyd. Serch hynny mae'n bur debyg y medrwn ei gyfri fel un o esgobion cynnar Bangor gan fod tir yr esgobaeth honno'n gyfateb i diriogaeth [[teyrnas Gwynedd]] fwy neu lai. [[Caradog ap Meirion]] ([[730]]? - [[798]]?) oedd brenin Gwynedd yn amser Elfodd.
 
Rhoes Elfodd arweiniad pwysig i'r [[eglwys]] gynnar yng Nghymru, a oedd yr olaf o'r [[Eglwys Geltaidd|Eglwysi Celtaidd]] i glymu wrth yr hen system o ddyddio'r [[Pasg]], trwy fabwysiadu'r dull [[Eglwys Gatholig|Rhufeinig]] o wneud hynny. Digwyddodd hynny yn [[768]] yn ôl yr ''Annales Cambriae''.