Ynys Seiriol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Ynys_Seiriol_01.JPG|550px|bawd|canol|Ynys Seiriol a Phenmon o'r tir mawr]]
[[Ynys]] gyferbyn [[Penmon]] oddi ar arfordir de-ddwyreiniol [[Ynys Môn]] yw '''Ynys Seiriol'''. Mae [[goleudy]] amlwg yn sefyll ar darn o graig yn y môr rhwng Ynys Seiriol ac Ynys Môn, yng ngofal [[Trinity House]].
 
==Hanes==
Llinell 6:
<tr><td colspan=2 align=center bgcolor="#ff9999">'''Ynys Seiriol'''<br><font size="-1">''Ynys Môn''</font></td>
<tr><td colspan=2 align=center><div style="position: relative">[[Image:CymruMon.png]]<div style="position: absolute; left: 95px; top: 15px">[[Image:Smotyn_Coch.gif]]</div></div></td></tr>
</table>
</table>Enwir yr ynys ar ôl [[Seiriol|Sant Seiriol]], oedd yn byw yn y [[6ed ganrif]], ac ar un adeg roedd [[clas]] (mynachlog) yno oedd, yn ôl yr hanes, wedi ei sefydlu gan Seiriol ei hun. Mae olion [[capel]] bach gyda thŵr sgwâr ag iddi ben trionglog, sy'n dyddio o'r [[12fed ganrif]], yn sefyll yng nghanol yr ynys; mae'n gysylltiedig â [[Priordy Penmon]]. Darganfuwyd yn ogystal olion tŷ gweddi (''oratorium'') sydd yn dyddio o'r [[8fed ganrif]] efallai ac yn gyffelyb i rai o'r tai gweddi [[Celtiaid|Celtaidd]] cynnar sydd yn [[Iwerddon]], fel "Tŷ [[Sant Columba]]" yn [[Kells]]. Tybir hefyd bod olion rhai o'r celloedd [[meudwy]] gwreiddiol i'w gweld yno.
 
Yr enw a roddodd y [[Llychlynwyr]] ar yr ynys yw [[Priestholm]], sef "Ynys yr Offeiriaid". Hen enw arall ar yr ynys yn ôl traddodiad yw [[Ynys Lannog]], (hefyd "Ynys Lannawg" neu "Ynys Glannawg"), sy'n cyfeirio at yr arwr chwedlonol [[Helig ap Glannog]] a'r chwedl am ei lys boddedig; mae'n bosbil fod yr enw hwn ar yr ynys yn gynharach na'r enwau eraill i gyd. Mae [[Gerallt Gymro]] yn cyfeirio at yr ynys yn ei lyfr [[Hanes y Daith Trwy Gymru]] ([[1188]]).
:''Y mae hefyd wrth ystlys Môn, a bron yn un â hi, ynys fechan nad oes yn ei phreswylio ond meudwyaid yn byw ar lafur eu dwylo, ac yn gwasanaethu Duw. Testun rhyfeddod ynglŷn â hwy yw, pan gaffer hwynt weithiau, fel y digwydd ar dro, yn anghytûn â'i gilydd o achos nwydau dynol, ar unwaith, y mae llygod pitw bach, y mae'r ynys yn orlawn ohonynt, yn bwyta ac yn halogi eu holl fwydydd a'u diodydd. Ond pan beidio'r anghytundeb, yn ddiymdroi peidia'r molest yntau. // Ynys Lannog, hynny yw, yr Ynys Eglwysig, y gelwir yn Gymraeg yr ynys uchod: oherwydd y llu saint y mae eu cyrff yn gorwedd yno. Ac nid â benywod i mewn i'r ynys hon''.
Rhoddodd y tywysog [[Llywelyn ab Iorwerth|Llywelyn Fawr]] roddion i "Brior a chanoniaid Ynys Glannawg" mewn dau siarter dyddiedig [[1221]] a [[1237]]. Erbyn hyn nid oes neb yn byw ar yr ynys.
Llinell 24 ⟶ 25:
[[Categori:Afon Menai]]
[[Categori:Oes y Seintiau yng Nghymru]]
[[Categori:Clasau]]
[[Categori:Eglwysi Cymru]]