Sefydliad Masnach y Byd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: af:Wêreldhandelsorganisasie
map sy'n cael ei ddiweddaru'n amlach
Llinell 1:
[[Delwedd:World Trade Organization Members.svg|bawd|{{eglurhad|#008000|Aelodau CMB}}{{eglurhad|#00FF00|Aelodau'r [[Undeb Ewropeaidd]], sydd yn aelod CMB}}{{eglurhad|#0000FF|Arsyllwyr}}]]
[[Delwedd:WTOmap currentmemberYN.png|bawd|Aelodau presennol CMB.]]
Cyfundrefn ryngwladol yw '''Cyfundrefn Masnach y Byd''' neu '''CMB''' ([[Ffrangeg]]: ''Organisation mondiale du commerce'', OMC; [[Saesneg]]: ''World Trade Organization'', WTO; [[Sbaeneg]]: ''Organización Mundial del Comercio'', OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli [[masnach ryngwladol]] rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb CMB a drafodwyd ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym [[Marrakech]], [[Moroco]] gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ôl hynny gan eu [[senedd]]au. Bwriad swyddogol CMB yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i [[masnach rydd|fasnach]]. Yn 2009 roedd gan y gyfundrefn gyllid o 189 miliwn Ffranc y Swistir a 153 aelod-wladwriaeth: [[Cabo Verde]] yw'r aelod diweddaraf.<ref>[http://www.wto.org/french/news_f/news08_f/acc_capverde_july08_f.htm Gwefan CMB]</ref> Nid yw [[Rwsia]], [[Iran]] a rhan helaeth y [[byd Arabaidd]] yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.
 
Er 2001, mae CMB yn dilyn cyfarwyddiadau 'Cylch Doha', a gytunwyd yn [[Doha]], prifddinas [[Qatar]]. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y [[y Cenhedloedd Unedig]], mae gan CMB gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir prifgadlys CMB yn ninas [[Genefa]], [[Y Swistir]]. Ar 26 Mai 2005, daeth y Ffrancwr [[Pascal Lamy]] yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CMB, gan olynu'r gŵr Thai [[Supachai Panitchpakdi]]. Adnewyddwyd ei benodiad yn Ebrill 2009 am dymor o bedair blynedd arall.
 
Ers diwedd y 1990au, mae CMB dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu [[globaleiddio]]'r [[economi ryngwladol]]" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau CMB wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.