Bara Angylion Duw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'thumb|Cyfansoddwyd y darn yn wreiddiol ar gyfer [[Gŵyl Corff Crist a ddethlir yn yr [[Eglwys Ba...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:27, 28 Rhagfyr 2011
Pennill o'r emyn Sacris Solemniis a ysgrifennwyd gan y Sant Thomas Aquinas (1225-1274) yw Bara Angylion Duw, neu Panis Angelicus yn y Lladin gwreiddiol. Er mai un pennill ydyw, y chweched o saith pennill yn y Sacris Solemniis, daeth yn arferiad canu'r pennill ar ei ben ei hun fel emyn ynddo'i hunan ar wahanol donau, ac mae'r pennill yn fwy adnabyddus fel darn i'w ganu bellach na'r emyn gwreiddiol y mae'n rhan ohono.
Ym 1872, gosododd y cyfansoddwr César Franck y geiriau ar gyfer llais (tenor), telyn, soddgrwth ac organ, a'i gynnwys yn ei Opws 12 Messe à trois voix. Mae'r emyn bellach yn adnabyddus ar y dôn honno gan Franck, naill ai yn Lladin, neu yn fwy cyffredin yng Nghymru, yn Gymraeg.
Geiriau
Geiriau Cymraeg | Y Lladin gwreiddiol |
---|---|
|
|
Cyfeiriadau
- ↑ "Bara Angylion Duw", YouTube, 28 Ionawr 2011.