Gogledd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tacluso
B Terminoleg
Llinell 4:
 
==Diffinio'r rhanbarth==
Yn hanesyddol, bu'r rhan fwyaf o ogledd Cymru yn rhan o [[Teyrnas Gwynedd|Deyrnas Gwynedd]]. Yn weinyddol, mae'n cynnwys [[Siroedd a Dinasoedd Cymru|awdurdodau lleolunedol]] Môn, [[Gwynedd]], [[Conwy (sir)|Conwy]], [[Sir Ddinbych|Dinbych]], [[Sir y Fflint|Fflint]], a [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]]. Mae gan y rhanbarth boblogaeth o ryw 738,000 o bobl.
 
Gellir ymrannu'r rhanbarth yn ddau is-ranbarth sy'n bur wahanol o ran hanes a diwylliant, er bod ganddynt llawer mewn cyffredin hefyd. Mae'r gogledd-orllewin - yn fras, siroedd traddodiadol [[Sir Fôn]], [[Sir Gaernarfon]] a [[Meirionnydd]] - yn fwy [[Cymraeg]] na'r gogledd-ddwyrain, er bod rhannau o'r olaf, yn enwedig cefn gwlad [[Sir Ddinbych]], yn dal yn gadarnleoedd Cymraeg. Mae'r ymraniad hwn yn hen, gyda'r gogledd-orllewin yn cyfateb yn fras i diriogaeth [[Gwynedd Uwch Conwy]] a'r gogledd-ddwyrain i'r [[Berfeddwlad]] ([[Gwynedd Is Conwy]]): mor ddiweddar â'r 19eg ganrif arferai pobl gyfeirio at y gogledd gyfan fel 'Gwynedd' (cf. yn enw'r [[Gwyneddigion]]).
 
==Unedau gweinyddol, hen a newydd==
===Awdurdodau lleolunedol===
Creuwyd yr awdurdodau lleol yn 1996.
*[[Conwy|Bwrdeistref Sirol Conwy]]
Llinell 35:
Does dim gwasanaeth teledu rhanbarthol ar gyfer y gogledd, sy'n cael ei wasanaethu gan [[BBC Cymru]] ac [[ITV Wales]] yn Saesneg ac [[S4C]] yn Gymraeg. Mae dwy orsaf radio genedlaethol Cymru, [[BBC Radio Cymru|Radio Cymru]] yn Gymraeg a [[BBC Radio Wales|Radio Wales]] yn Saesneg, ar gael trwy'r rhan fwyaf o'r gogledd, er bod anawsterau derbyn signal mewn rhai ardaloedd yn y bryniau.
 
Mae gorsafoedd radio annibynnol yn y rhanbarth yn cynnwys: [[Marcher Sound]] (Wrecsam, Sir y Fflint), [[Coast 96.3]] (arfordir y gogledd, ond heb gynnwys y gorllewin eithaf) a [[Champion 103]] (Audurdodau lleolunedol Gwynedd a Môn). Yn ogystal gellir gwrando [[Radio Maldwyn]] (a fwriedir ar gyfer [[Sir Drefaldwyn]]) yn ardal Wrecsam.
 
===Rhyngrwyd===