Tewdrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Death.of.Tewdric.jpg|200px|bawd|''Marwolaeth Tewdrig'', darlun o gerflun gan y cerflunydd Cymreig J. Evan Thomas (1852).]]
Brenin [[Teyrnas Gwent|Gwent]] a [[Glywysing]] yn ne Cymru a [[sant]] a ferthyrwyd yn ymladd y [[Sacsoniaid]] oedd '''Tewdrig''' neu '''Tewdrig ap LlywarchTeithfall''' ([[Lladin]]: ''Theodoricius''/''Theodoric'') (tua [[580490]] - [[630517]]).
 
Yn ôl hanesyn a geir yn ''[[Llyfr Llandaf]]'' ([[12fed ganrif]]), roedd Tewdrig yn fab i naill ai i Lywarch neu Teithfall o Went, a roddodd lawer o dir i [[clas|glas]] [[Eglwys Gadeiriol Llandaf|Llandaf]]. Ymddeolodd fel brenin er mwyn mynd yn feudwy yn [[Abaty Tyndyrn|Nhyndyrn]] ac fe'i olynwyd gan ei fab, [[Meurig ap Tewdrig|Meurig]], tad [[Athrwys ap Meurig]]. Ond pan groesodd y Sacsoniaid [[Afon Hafren]] dan arweiniad [[Ceolwulf o Wessex|Ceolwulf]] tua'r flwyddyn [[630]], gan anrheithio nifer o glasau ac eglwysi, daeth Tewdrig allan o'i ymddeoliad i gynorthwyo ei fab ac amddiffyn yr eglwys yn erbyn y "[[pagan]]iaid" Seisnig. Gorchfygodd Tewdrig a Meurig y Sacsoniaid ym mrydr Pont y Saeson, ger Tyndyrn, ond clwyfwyd Tewdrig yn angeuol. Cafodd ei gludo ar gert ych i'r clas ar [[Ynys Echni]], ym [[Môr Hafren]], ond ar y ffordd arosodd yr ychen wrth ffynnon wyrthiol a enwir yn Ffynnon Tewdrig hyd heddiw. Yno cafodd ei glwyfau eu golchi a bu farw mewn hedd. Yng nghalendr yr Eglwys coffheir ei farw ar [[3 Ionawr]].