Diwydiant glo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mae pobl wedi bod yn cloddio am [[glo|lo]] ers cyfnod y [[Rhufeiniaid]] o leiaf. Ond ar raddfa bychan bu hynny tan y [[Chwyldro Diwydiannol]] yn y [[18fed ganrif]]. Yng ngwledydd [[Prydain]] - yn arbennig yn [[De Cymru|Ne Cymru]] a [[Gogledd Lloegr]] - y datblygodd y diwydiant yn gyflymaf wrth i dechnegau newydd ddod i mewn a'r galw am [[tanwydd|danwydd]] yn y trefi a dinasoedd gynyddu'n sylweddol. Erbyn [[1800]] roedd modd [[carboneiddio]] glo ar raddfa diwydiannol am y tro cyntaf. Defnyddiwyd y [[nwy glo]] a geir felly ar gyfer lampiau nwy glo yn y [[dinas]]oedd a'r [[golosg]] (côc) ar gyfer smeltio mwyn [[haearn]]. Ers y cyfnod hynny mae'r diwydiant glo a'r [[diwydiant dur]] wedi tyfu ochr yn ochr â'i gilydd (yn llythrennol felly yn aml).
 
Erbyn canol y [[19eg ganrif]] gwelwyd cynnydd yn y diddordeb gwyddonol yn y sgîl-gynhyrchion megis [[tar glo]], [[amonia]] a [[pyg|phyg]]. Roddodd hyn yn ei dro hwb i astudiaethau [[cemeg organig]]; ymhlith y deunyddiau a ddatblygwyd yr oedd deunydd lliwio a deunydd [[ffrwydryn|ffrwydron]]. Erbyn yr [[20fed ganrif]] roedd hynny'n sail i'r [[diwydiant plastig]].
 
Yn ystod y [[1920au]] a'r [[1930au]] roedd diwydiant yr [[Almaen]] ar y blaen yn natblygiad prosesau i droi glo'n [[olew]]: ffactor allweddol pan aeth y wlad honno i ryfel dan y [[Natsïaid]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]]. Ond ers hynny mae [[nwy naturiol]] wedi cymryd lle nwy glo i raddau helaeth ac mae [[petrogemeg]]ion wedi disodli tar glo fel ffynhonnell deunyddion organig crai.