Sieffre o Fynwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu fymryn
Llinell 1:
[[Delwedd:Arthur3487.jpg|200px|de|bawd|Sieffre oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ddelwedd boblogaidd o'r Brenin Arthur]]
 
Roedd '''Sieffre o Fynwy''', [[Lladin]] '''Galfridus Monemutensis''', (c.1100 - c.1155) yn glerigwr fu'n Esgob [[Llanelwy]]. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau [[Lladin]] am hanes cynnar [[Ynys Prydain]], yn enwedig am y [[Brenin Arthur]]. Er nad oes dim gwerth iddynt fel hanes, cawsant ddylanwad enfawr yng Nghymru a thrwy orllewin [[Ewrop]].
 
==Bywyd==
 
Ni wyddys ymhle y ganed Sieffre, ond mae ei enw yn awgrymu mai yn ne--ddwyrain Cymru y ganed ef. Mae ei ddisgrifiad o [[Caerllion|Gaerllion]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd a'r ardal. Roedd ei deulu yn wreiddiol o [[Llydaw|Lydaw]]. Aeth i [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]] ac ymddengys ei enw ar 21freinlen abaty Osney, [[Rhydychen]] yn [[1129]] ac ar chwe dogfen arall o ardal Rhydychen rhwng y flwyddyn honno a [[1151]]. Disgrifir ef fel ''magister'' yn rhai o'r dogfennau hyn.

Ar 24 Chwefror [[1152]] cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy gan [[Archesgob Caergaint]]. Nid oes cofnod iddo ymweld a'i esgobaeth, oedd yn rhan o deyrnas [[Owain Gwynedd]]. Bu Owain yn dadlau'n ffyrnig ag Archesgob Caergaint ynglyn a phenodiad [[Esgob Bangor]]; nid oes cofnod a oedd penodiad Sieffre i Lanelwy yn dderbyniol iddo. Yn ôl y croniclau Cymreig bu farw yn [[1155]].
 
==Gweithiau==
Llinell 11 ⟶ 13:
Llyfr cyntaf Sieffre oedd y ''Prophetiae Merlini'' ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin [[Myrddin]] ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw [[Cymraeg]], a chafodd dderbyniad brwd.
 
Gwaith enwocaf Sieffre oedd yr ''Historia Regum Britanniae'' (Hanes Brenhinoedd Prydain) a ymddangosodd yn nechrau [[1136]]. Mae'n adrodd hanes Ynys Prydain o ddyfodiad [[Brutus o Gaerdroea]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth [[Cadwaladr]] yn y [[7fed ganrif]]. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynhonnellau Sieffre oedd gweithiau [[Gildas]] (''De Excidio Britanniae''), [[Beda]] a [[Nennius]], ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.
 
Rhwng [[1149]] a [[1151]] ysgrifennodd Sieffre gerdd Ladin i 1538 o linellau, y ''Vita Merlini'' ("Bywyd Myrddin"), yn ailadrodd hanes Myrddin o'r traddodiad Cymraeg.
 
Bu dylanwad gweithiau Sieffre yn enfawr trwy orllewin Ewrop. Cafodd yr Historia ei gyfieithu i lawer o ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg dan y teitl ''Brut y Brenhinedd''. Ymddengys mai fel dilyniant i'r ''Historia Regum Britanniae'' y bwriadwyd [[Brut y Tywysogion]]. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu y ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin o'r [[Canol Oesoedd]] gyda marchogion oedd yn batrwm o [[sifalri]]. Yng Nghymru bu ei ddylanwad yn arbennig o drwm a pharhaodd am ganrifoedd lawer, fel y gwelir yng nghyfrol [[Theophilus Evans]] ''Drych y Prif Oesoedd''.
Llinell 19 ⟶ 21:
 
==Llyfryddiaeth==
*''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953)
* Geoffrey of Monmouth. ''The History of the Kings of Britain.'' Translated, with introduction and index, by Lewis Thorpe. Penguin Books: London, 1966. ISBN 0-14-044170-0
* Brynley F. Roberts. "Geoffrey of Monmouth, Historia Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd". Yn ''The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature'' gan R. Bromwich, A. O. H.Jarman a Brynley F. Roberts, tt.97-116. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).