Camino de Santiago: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle| gwlad={{banergwlad|Sbaen}}}}
 
Y '''Camino de Santiago''' ("Ffordd Sant Iago") yw'r enw [[Sbaeneg]] am rwydwaith o lwybrau ar draws [[Sbaen]], [[Ffrainc]] a gwledydd eraill yn [[Ewrop]], yn arwain i ddinas [[Santiago de Compostela]] yn [[Galicia]], lle cedwir gweddillion honedig yr [[Y Deuddeg Apostol|apostol]] [[Iago fab Sebedeus]].
 
O tua'r flwyddyn [[814]], gyda darganfyddiad gweddillion yr apostol yn Santiago, a chyda chefnogaeth [[Siarlymaen]], tyfodd Santiago yn gyrchfan boblogaidd dros ben i bererinion ar draws Ewrop. O'r [[11g]] ymlaen, Santiago de Compostela oedd y gyrchfan bwysicaf i [[Pererindod|bererinion]] ar ôl [[Jeriwsalem]] a [[Rhufain]]. Mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw, yn enwedig y rhan o'r ''camino francés'', "ffordd y Ffrancwyr", sy'n arwain o [[Roncesvalles]] yn [[Navarra]] ar draws gogledd Sbaen i Santiago de Compostela.