Cenhedlig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= gwladwriaeth}}
 
'''Cenhedlig''' ([[Lladin]]: ''gentiles'') yw'r gair mae'r [[Iddewon]] yn ei ddefnyddio i ddisgrifio pobloedd sydd ddim yn Iddewon. Yr ystyr llythrennol yw "perthyn i'r cenhedloedd (eraill)", sef y [[cenedl|cenhedloedd]] anetholedig gan Dduw mewn gwrthgyferbyniad â chenedl [[etholedigaeth|etholedig]] yr Iddewon. Yn y [[Beibl]], pobl heb fod yn Iddewon yw'r Cenhedloedd. Mae'n enw a gysylltir yn bennaf â'r [[Testament Newydd]], lle cyfeirir yn aml at yr [[apostolY Deuddeg Apostol|apostolion]]ion "yn mynd allan i genhadu i'r cenhedloedd." (Rhaid cofio mai Iddewon oedd [[Iesu o Nasareth]] a'r rhan fwyaf o'i ddisgyblion; diweddarach yw'r gair [[Cristion]].)
 
''Gentilis'' yw'r gair yn y [[Lladin]], sy'n golygu 'yn perthyn i dylwyth neu lwyth'. Cyfieithiad yw'r gair Lladin o'r geiriau [[Hebraeg]] ''goy/גוי'' a ''nochri/נכרי''. Fe'i defnyddir hefyd i gyfieithu'r gair [[Groeg]] ''εθνοι/ethnoi''.