Cylchgrawn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Morfuddnia (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
LLGC
Llinell 9:
Bu rhaid aros yn hir i gael deunydd tebyg i'r cylchgronau amrywiol a gyhoeddid mewn gwledydd eraill yn y Gymraeg. Yn Lloegr roedd cylchgronau dychanol fel ''[[Punch (cylchgrawn)|Punch]]'' yn hynod poblogaidd, er enghraifft, ac er y cafwyd fersiwn Cymraeg ni pharhaodd am hir.
 
I gryn raddau, llenyddiaeth sy'n dominyddu hanes y cylchgrawn yn yr 20fed ganrif yng Nghymru. Gellid nodi ''[[Y Llenor]]'' a ''[[Taliesin (cylchgrawn)|Taliesin]]''. Digideiddiwyd llawer o gylchgronnau Cymraeg a Chymreig gan y Llyfrgell Genedlaethol mewn prosiect a elwir yn [http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk/browse/ Gylchgronnau Cymraeg Ar-lein].
 
Y cylchgrawn hynaf i gael ei gyhoeddi, sy'n para i gael ei gyhoeddi heddiw, (a hynny mewn unrhyw iaith yn y byd) ydy'r ''[[Y Gwyliedydd|Gwyliedydd]]'' sef cylchgrawn y mudiad [[Methodistiaid Wesleiaid|Wesleaidd]]. Ymysg ei olgygyddion cyfoes y mae [[Owain Owain]] ac [[Angharad Tomos]]. Mae nifer o'r rhifynau cynharaf wedi eu gosod ar y we.<ref>[http://books.google.co.uk/books?id=9kUEAAAAQAAJ&printsec=frontcover&dq=editions:0AfcFikQRpUmRJ_L. ''Y Gwyliedydd'' ar "Google books"]</ref>