Eglwys Gadeiriol Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 7:
 
Dywedir i'r eglwys gadeiriol gael ei llosgi yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]], ond nid oes tystiolaeth o'r cyfnod i gadarnhau hyn. Bu ail-adeiladu ar raddfa fawr o ddiwedd y [[15fed ganrif]], a orffennwyd yn [[1532]]. Mae arysgrif [[Lladin]] uwchben drws y twr yn cofnodi fod yr Esgob Skevington wedi ei adeiladu yn 1532, er nad oedd wedi ei orffen pan fu farw Skevington yn [[1533]]. Gwariwyd £2,000 ar drwsio'r adeilad yn [[1824]], a newidiwyd y tu mewn yn [[1825]] ar gost o £3252.
 
Mae'r adeilad fel y gwelir ef heddiw yn ffrwyth ail-adeiladu helaeth dan oruchwyliaeth Syr [[Gilbert Scott]] a ddechreuwyd yn [[1868]]. Yr oedd cynllun gwreiddiol Scott yn galw am dŵr uchel, ond ni allwyd ei orffen gan fod craciau yn dechrau ymddangos. Ofnid fod hyn yn arwydd o broblemau gyda'r sylfaen, a gadawyd y tŵr yn isel.