Tsieineeg Mandarin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Serch hynny defnyddir llawer o ymadroddion o'r iaith ysgrifenedig draddodiadol yng nghanol yr iaith lafar, gan gynnwys y llu o ddywediadau pedwar llun. Er enghraifft,
 
骑虎难下 (''qí hŭ nán xià ''neu''/ qi1hu3nan2xia4'' - lle mae'r rhifau yn dynodi goslef y sill). Cyfieithiad llythrennol fyddai "Marchogaeth Teigr, anodd disgyn" a dynoda'r y dywediad sefyllfa sydd yn anodd parhau ynddi a hefyd yn anodd dod allan ohoni.
 
班门弄斧 (''bān mén nòng fŭ") - Defnyddio bwyellt o flaen drws Ban (saer crefftus iawn). Ystyr hyn ydyw rhywun di-fedro allu pitw yn ceisio dangos ei hun o flaen arbennigwr.
 
九牛一毛 (jiŭ niú yī máo) - naw buwch un blewyn, hynny yw rhywbeth sy'n anodd dod o hyd iddo.
 
同床异梦 (tóng chuáng yì mèng) - cysgu yn yr un gwely ond breuddwydio breuddwydion gwahanol, hynny yw, sefyllfa lle y mae dau berson neu gwmni yn cydweithio ond gyda nodau gwahanol.
 
Noder hefyd mai'r iaith ysgrifenedig sydd yn cael ei defnyddio gan siaradwyr pob tafodiaith o Tsieinëeg. Dyma un rheswm am undod Tsieina dros y canrifoedd.