Walid Jumblatt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 195.195.223.2 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan VolkovBot.
Llinell 3:
 
Mae Jumblatt yn bennaeth y tylwyth [[Jumblatt]], teulu estynedig o dras [[Cyrdiaid|Cyrdaidd]] sy'n hannu o [[Aleppo]]. Mae'n fab i'r gwleidydd [[Kamal Jumblatt]], cyn-arweinydd y BSF, plaid Walid Jumblatt, a guddlofruddwyd. Y tylwyth Jumblatt yw'r mwyaf pwerus o dylwythau'r Druziaid ac mae Walid Jumblatt wedi defnyddio ei safle yn y gymuned Druz fel sylfaen ei rym yn y BSF, sy'n blaid i'r chwith o'r canol. Mae'n cael ei ystyried yn dipyn o faferic gwleidyddol gyda buddianau y gymuned Druz yn flaenoriaeth. Hyd at 2000, pan guddlofruddwyd y gwleidydd [[Hafez al-Assad]], bu'n gefnogol i Syria yn Libanus, ond ers hynny mae'n galw ar i [[Damascus]] ildio ei goruchafiaeth ar faterion y wlad. Mae'n gwrthwynebu dylanwad [[Hezbollah]] hefyd.
 
Bu'n briod gyda Betsan Williams o Llangolman
 
Gyda milisia Druz sylweddol yn gefn iddo, mae Jumblatt yn byw ym mhentref [[Mukhtara]] ar lethrau [[Mynydd Libanus]], prif ardal y Druz yn Libanus.