ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) (Tudalen newydd: Mae '''Mynydd Hiraethog''' yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng Afon Conwy ac Afon Clwyd, yn Sir Ddinbych a Sir Conwy. ==Cysylltiadau ...) |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) (ehangu) |
||
Mae '''Mynydd Hiraethog''' yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng [[Afon Conwy]] ac [[Afon Clwyd]], yn [[Sir Ddinbych]] a [[Conwy (sir)|Sir Conwy]].
Mynydd Hiraethog yw'r rhan fwyaf gogleddol o [[Mynyddoedd y Cambria|Fynyddoedd y Cambria]]. Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu [[Grugiar]] yn hanner cyntaf yr [[20fed ganrif]], ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Fforest Clocaenog.
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o [[Oes yr Efydd]]. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd.
==Cysylltiadau allanol==
|