cronfeydd
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) (cronfeydd) |
||
Mynydd Hiraethog yw'r rhan fwyaf gogleddol o [[Mynyddoedd y Cambria|Fynyddoedd y Cambria]]. Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu [[Grugiar]] yn hanner cyntaf yr [[20fed ganrif]], ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Fforest Clocaenog.
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o [[Oes yr Efydd]]. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw [[Llyn Alwen]] a [[Llyn Brenig]].
|