Lleu Llaw Gyffes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Robot: Yn fformatio'r rhif ISBN
Gwydd0n (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 3:
 
==Geni'r efeilliaid Lleu a Dylan==
Yn ôl y chwedl, ni allai Math fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn. Wrth chwilio am forwyn cynghorodd ei nai [[Gwydion]] iddo ddewis [[Arianrhod]], chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei [[hudlath]] ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, ac bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn y cyfamser gwnaeth Math fedyddio'r bachgen mawr penfelyn gyda'r enw [[Dylan]]. Cyn gynted ag y bedyddiwyd ef fe gyrchodd y môr ac "fe gafodd natur y môr". Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don. Wedyn clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfod mab bychan. Cyrchodd y dref gyda'r plentyn i'r lle y gwyddai fod gwraig a allai feithrin y bachgen. Tyfodd y mab yn hynod o gyflym. Ymhen yr ail flwyddyn yr oedd yn gallu cyrchu'r llys ar ei ben ei hun, felly o hyn ymlaen fe'i fagwydmagwyd yn y llys gan ei ewythr Gwydion.
 
==Lleu a thynghedau Arianrhod==