Peter Brook: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rheoli awdurdod
B dol
Llinell 4:
Ganed ef yn [[Chiswick]], [[Llundain]]. Gwyddonwyr [[Iddew]]ig o [[Latfia]] o'r enw Bryk oedd ei rieni; alltudiwyd ei dad o [[Ymerodraeth Rwsia]] ym 1914 am iddo arddel taliadau chwyldroadol.<ref>{{eicon en}} "[https://archive.today/8og2X Peter Brook, visionary director known for his daring and visually striking stage productions – obituary]", ''[[The Daily Telegraph]]'' (3 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r [https://www.telegraph.co.uk/obituaries/2022/07/03/peter-brook-visionary-director-known-daring-visually-striking/ dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.today ar 6 Gorffennaf 2022.</ref> Mynychodd Peter sawl ysgol, gan gynnwys yr ysgolion bonedd [[Ysgol Westminster|Westminster]] a [[Ysgol Gresham|Gresham]], cyn iddo gael ei dderbyn i [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]] ym 1942.
 
Cyfarwyddodd Shakespeare yn gyntaf—y ddrama hanes ''King John''—yn ystod ei dymor gyda'r [[Birmingham]] Repertory Theatre ym 1945, ac wedi hynny aeth i fan geni'r dramodydd, [[Stratford-upon-Avon]], yn 21 oed. Yn y 1940au, efe a gyflwynodd dramâu ''avant-garde'' y Ffrancod [[Jean Cocteau]] a [[Jean-Paul Sartre]] i Loegr. Cyfarwyddodd sawl [[opera]], gan gynnwys ''Salome'' gan [[Richard Strauss]], i'r [[Tŷ Opera Brenhinol]] ym 1948–9. Cyfarwyddodd nifer rhagor o ddramâu Shakespeare, gan gynnwys ''Measure for Measure'' (1950), ''The Winter's Tale'' (1951), ''Titus Andronicus'' (1955), ''[[Hamlet]]'' (1955), ''[[Y Dymestl|The Tempest]]'' (1957), a ''[[King Lear]]'' (1962). Yn niwedd y 1950au daeth yn gyfarwydd â ffasiynau pryfoclyd y Cyfandir, yn enwedig y ffurf ''Théâtre de la Cruauté'' a arloeswyd gan [[Antonin Artaud]], ac aeth Brook ati i lwyfannu gweithiau o'r fath, gan gynnwys ''The Screens'' gan [[Jean Genet]] a ''Marat/Sade'' gan [[Peter Weiss]], ill dau ym 1964.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Peter-Brook |teitl=Peter Brook |dyddiadcyrchiad=6 Gorffennaf 2022 }}</ref> Brook a wnaeth sgriptio a chyfarwyddo'r [[Lord of The Flies|addasiad ffilm]] ym 1963 o'r nofel ''Lord of the Flies'' gan [[William Golding]]. Ym 1968 cyhoeddodd Brook ei lyfr enwocaf, ''The Empty Space'', yn gyflwyniad o'i syniadau am myd y theatr.
 
Symudodd i [[Paris|Baris]], [[Ffrainc]], ym 1970, ac yno sefydlodd y Ganolfan Ryngwladol er Ymchwil Theatr, mewn cydweithrediad â'r Théâtre des Bouffes du Nord. Wedi hynny, perfformiwyd y mwyafrif o'i gynyrchiadau ym Mharis, gan gynnwys ''Kaspar'' gan [[Peter Handke]] (1972), ''Timon of Athens'' (1974) ac ''Antony and Cleopatra'' (1978) gan Shakespeare, ac addasiad o'r ''[[Mahabharata]]'' a barai am naw awr (1985). Ysgrifennodd ragor o lyfrau am ei brofiadau a'i syniadau artistig, gan gynnwys ''The Shifting Point'' (1987), ''The Open Door'' (1993), a'r hunangofiant ''Threads of Time'' (1998). Derbyniodd wobr y Praemium Imperiale am theatr/ffilm ym 1997, a fe'i wnaed yn Gydymaith Anrhydedd ym 1998.<ref name=Britannica/> Bu farw Peter Brook ym Mharis yn 97 oed.<ref>{{eicon en}} "[https://archive.today/8xD63 Peter Brook: British stage directing great dies aged 97]", [[BBC]] (4 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r [https://www.bbc.co.uk/news/entertainment-arts-12553081 dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.today ar 6 Gorffennaf 2022.</ref>