Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 14:
Gwraidd y syniad o sefydlu '''Magen David Adom''' ("Seren Goch Dafydd"; [[Hebraeg]]: מגן דוד אדום‎, abbr. MDA, ynganner MAH-dah megis ei acronym Hebraeg, מד"א) oedd Dr. Erlanger yn Lucerne, yn y [[Swistir]] yn 1915 er mwyn cynorthwyo milwyr Iddewig yn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]].<ref>https://www.mdais.org/en/about/history</ref> Gyda diwedd y Rhyfel dadfeiliodd y mudiad nes ailgychwyn arni, ymddengys yn 1930 yn dilyn gwrthdrawiadau gwrth-Iddewig ym [[Palesteina (Mandad)|Mhalesteina]] yn 1929. Dyweidir mai nyrs, Karen Tenenbaum yn [[Tel Aviv]] bu'r prif sbardyn. Tyfodd o'r un gangen wreiddiol i gorff gwirfoddol sy'n gweithredu ar draws Israel gan gynnwys i rai nad sy'n Iddewon megis Mwslemiaid, Druize a Christnogion. Mae amcanion Magen David yn cynnwys cynnal gwasanaethau cymorth cyntaf; cynnal gwasanaeth storio gwaed, plasma a'u sgil-gynhyrchion; cyfarwyddyd mewn cymorth cyntaf a meddygaeth frys cyn-ysbyty; gweithredu rhaglen wirfoddoli lle caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf, cymorth bywyd sylfaenol ac uwch gan gynnwys unedau gofal dwys symudol; cludo cleifion, menywod wrth esgor, a gwacáu'r rhai sydd wedi'u hanafu a'u lladd mewn damweiniau ffordd; cludo meddygon, nyrsys a heddluoedd ategol meddygol.
 
Bu gwrthwynebiad ryngwladol i gydnabod Magen David Adom ond ers mis Mehefin 2006, mae'r MDA wedi cael ei gydnabod yn swyddogol gan [[Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch]] (ICRC) fel cymdeithas cymorth genedlaethol gladwriaeth [[Israel]] o dan Gonfensiynau Genefa, ac yn aelod o [[Ffederasiwn Rhyngwladol o Gymdeithasau y Groes Goch a'r Cilgant Coch]]. Mae gan MDA rif ffôn brys meddygol penodol yn Israel, 101. Ond mae'n gweithredu yn fyd-eang.
 
===Persia===