Castell-nedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 26:
Dechreuodd Castell-nedd fel man croesi'r afon, ac ymsefydlodd pobl yma yng nghyfnod y [[Rhufeiniaid]]. Dim ond tri lle yng Nghymru y mae'r llenor Rhufeinig [[Tacitus]] yn cyfeirio atynt yn ei ''Historiae'' (''[[Hanes (Tacitus)|Hanes]]''), ac mae Castell-nedd yn un ohonynt.
Ceir tystiolaeth am aneddiadau hynafol yn y bryniau sy'n amgylchynu'r dref, ac mae'n debyg mai aneddiadau [[Celtaidd]] ydynt ond nid ydynt wedi cael eu dyddio. Canfuwyd gweddillion dynol 25 km i ffwrdd yn [[Ogof Paviland]]<ref>[http://www.explore-gower.co.uk/pavilandcave.html Explore Gower:Paviland Cave - Goat's Hole]</ref> ar [[Penrhyn Gŵyr|Benrhyn Gŵyr]], yn dyddio o 24,000 CC, gan brofi yr oedd pobl yn byw yn yr ardal yn ystod yr [[Oes Iâ]] ddiwethaf. Er y'i adnabyddir fel "[[Arglwyddes Goch Paviland]]", mae gweddillion yn rhai o ddyn nid menywfenyw<ref>{{dyf gwe|url=http://www.mnsu.edu/emuseum/archaeology/sites/europe/paviland_cave.html|teitl=Paviland Cave |cyhoeddwyr=University of Minnesota's Archaeology e-museum}}</ref>. Roedd Castell-nedd wedi ei leoli ar ymyl deheuol y cynfas o iâ, ac roedd Glyn Nedd yn ddyffryn rhewlifol. Daeth llystyfiant ac anifeiliaid i'r ardal yn dilyn enciliad y rhew tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.
 
Roedd trigolion Castell-nedd cyn dyfodiad y Rhufeniaid yn perthyn i lwyth Celtaidd y [[Silwriaid|Silwriaid]]. ''[[Nidum]]'' yw'r enw ar y gaer Rufeinig a ganfuwyd yn agos i'r ystad dai, a adnabyddir fel ''Roman Way'', ar lan orllewinol [[Afon Nedd]]. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae [[Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin]] heddiw.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.dwryfelin.baglanit.org.uk/history/index.html| teitl=History Department| cyhoeddwyr=Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin}}</ref>