Abaty Glyn y Groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Guto'r Glyn
Llinell 5:
Er fod yr abaty yn bur adfeiliedig, gellir gweld y cynllun yn glir. Mae'n dilyn y cynllun Sistersaidd arferol, gyda lle cysgu i tua 20 o fynachod ac efallai tua 40 o frodyr lleyg. Yn fuan wedi marwolaeth Madog ap Gruffydd Maelor, aeth yr abaty ar dân yn [[1236]] a bu cryn ddifrod; mae rhai o'r olion i'w gweld hyd heddiw. Dioddefodd ddifrod pellach yn ystod dau ymosodiad y brenin [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] ar Gymru yn [[1276]]-[[1277]] a [[1282]]-[[1283]]. Talwyd iawndal ac adferwyd y difrod, a bu gawith pellach ar yr adeilad dan yr Abad Adda yn nechrau'r [[14eg ganrif]]. Ymddengys i nifer y brodyr lleyg, ac efallai'r mynachod, leihau ar ôl [[Y Pla|y pla]] a newidiwyd yr adeiladau oherwydd hyn.
 
Dywedir i'r adaty dioddef difrod yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]] ond nid oes tystiolaeth i brofi hyn. Bu mwy o adeiladu yn y ganrif ddilynol, a chafodd yr abaty gyfnod o lewyrch, gyda llawer o ganmol ei bwyd a'i chroeso gan y beirdd. Yma y bu farw [[Guto'r Glyn]] tua 1493. Pan roddwyd diwedd ar y mynachlogydd dan y brenin [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]], yr oedd Glyn y Groes yn un o'r abatai llai a gaewyd yn [[1537]].
 
[[Categori:Sir Ddinbych]]