Castell y Bere: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gramadeg
Llinell 9:
 
==Adeiladwaith==
[[Delwedd:Castell_y_Bere_2.jpg|300px|bawd|Prif gwrt y castell âa'r ffynnon yn y canol]]
Castell y Bere yw'r mwyaf ei faint a'r mwyaf cymhleth ac uchelgeisiol o gestyll tywysogion Gwynedd. Daearyddiaeth ei safle a benderfynnodd ei gynllun, sy'n afreolaidd iawn ac yn dilyn ffurf y graig. Roedd yn gastell mawr yn ôl safonnau cestyll Gwynedd. Cafodd ei addurno â cherfluniau - dau farchog carreg yn gwarchod y fynedfa, er enghraifft - teiliau paentiedig a ffenestri [[gwydr lliw]], sy'n awgrymu ei fod yn [[llys]] a chanolfan weinyddol yn ogystal ag amddiffynfa. Yn wir, fel amddiffynfa doedd gan y castell ddim llawer i'w amddiffyn yn uniongyrchol.
 
Yn y de codwyd tŵr ar wahân a cynhwysaigynhwysai ystafelloedd preifat, yn ôl pob tebyg. Codwyd tŵr cadarn arall yn y pen gogleddol. Rhwng y ddau dŵr hyn roedd 'na dŵr arall o siâp betryal - yr amddiffynwaith gwreiddiol, mae'n debyg. Codwyd tŵr crwn i'r gogledd-ddwyrain ohono. Rhedai [[llenfur]] trwchus rhwng y tyrrau hyn, ag eithrio'r Tŵr Deheuol. Roedd y brif fynedfa yn wyebuwynebu'r gorllewin a glannau'r afon. Amddiffynid y borth gan ffosydd a [[Pont godi|phontydd codi]].
 
==Mynediad==