Ahura Mazda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Ahura Mazda''' neu '''Ohrmazd''' yw'r enw a roddir ar Dduw gan y Zoroastriaid. Ystyr yr enw Ahura Mazda yw 'Yr Arglwydd Doeth'. Fel mae ei enw yn awgrymu...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Taq-e_Bostan_-_High-relief_of_Anahita%2C_Khosro_II%2C_Ahura_Mazda.jpg|250px|bawd|Cerflun o [[Taq-e Bostan]] yn dangos y brenin [[Khosro II]] (canol) yn derbyn symbolau ei awdurdod gan '''Ahura Mazda''' (de) ac [[anahita]] (chwith)]]
'''Ahura Mazda''' neu '''Ohrmazd''' yw'r enw a roddir ar [[Duw|Dduw]] gan y [[Zoroastriaeth|Zoroastriaid]]. Ystyr yr enw Ahura Mazda yw 'Yr Arglwydd Doeth'. Fel mae ei enw yn awgrymu, ei brif agwedd yw Doethineb; nid yw'n twyllo ac ni ellir ei dwyllo gan ei fod yn ffynhonnell y [[goleuni]] a phob daioni. Ahura Mazda yw Tad a Mam y [[Bydysawd]], y creawdwr a osodes yr [[haul]], y [[lleuad]] a'r [[seren|sêr]] yn eu llwybrau. Mae o'n bod a bydd yn bod am byth. Ond yn yr oes bresennol nid yw Ahura Mazda yn hollalluog am ei fod yn wynebu ei arch elyn Yr Ysbryd Drwg; ond daw'r amser y bydd yn gorchfygu'r gelyn ac yn teyrnasu'n hollalluog.
 
Llinell 4 ⟶ 5:
 
Yn anad dim mae Ahura Mazda yn cynrychioli [[Daioni]] perffaith - y gwrthwyneb llwyr i [[Drygioni|Ddrygioni]]. Nid yw'n caniatau dioddefiant er bod hynny'n digwydd ar hyn o bryd oherwydd bodolaeth Drygioni.
 
Ym [[mytholeg Persia]] cyn sefydlu Zoroastriaeth roedd Ahura Mazda yn un o'r prif dduwiau brodorol. Ceir sawl ffurf ar ei enw. Fe'i cysylltir gan amlaf â'r [[Duwies|dduwies]] [[Anahita]]. Gan Anahita ac Ahura Mazda y derbynai brenhinoedd [[Persia]] eu hawdurdod.
 
[[Categori:Zoroastriaeth]]