Powys Fadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: '''Powys Fadog''' neu ''Powys Maelor'' oedd y rhan ogleddol o Deyrnas Powys. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, Madog ap Maredudd, yn 1160, a marwolaeth ei ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:27, 5 Mawrth 2007

Powys Fadog neu Powys Maelor oedd y rhan ogleddol o Deyrnas Powys. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, Madog ap Maredudd, yn 1160, a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, Owain Cyfeiliog, y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw Powys Wenwynwyn) yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, Gruffydd Maelor I y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, Madog ap Gruffydd Maelor.

Derbyniodd Gruffydd Maelor I cantrefi Maelor ac Iâl fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu Nanheudwy, Cynllaith, Glyndyfrdwy a Mochnant. Pan orchfygwyd Gwynedd gan Edward I yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn Sir Ddinbych a Sir Fflint. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, Gruffydd Fychan I, gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r Mers yn hytrach na thywysogion.


Tywysogion ac arglwyddi Powys Fadog

  • 1236–1269 [[Gruffydd II ap Madog, Arglwydd Dinas Bran]]

Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, Maredudd ab Owain Glyndŵr.