Powys Fadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Powys Fadog''' neu ''Powys Maelor'' oedd y rhan ogleddol o [[Teyrnas Powys|Deyrnas Powys]]. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, [[Madog ap Maredudd]], yn [[1160]], a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, [[Owain Cyfeiliog]], y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw [[Powys Wenwynwyn]]) yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, [[Gruffydd Maelor I]] y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, [[Madog ap Gruffydd Maelor]].
 
Derbyniodd Gruffydd Maelor I [[gantref|cantrefi]] [[Maelor]] ac [[Iâl]] fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu [[Nanheudwy]], [[Cynllaith]], [[Glyndyfrdwy]] a [[Mochnant]]. Pan orchfygwyd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] gan [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn [[Sir Ddinbych]] a [[Sir Fflint]]. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, [[Gruffydd Fychan I]], gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r [[Mers]] yn hytrach na thywysogion.