Abaty Glyn y Groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Mae '''Abaty Glyn y Groes''' ([[Lladin]] '''Valle Crucis''') yn Abaty [[Sistersiaid|Sistersiaidd]] yn nyffryn [[Afon Dyfrdwy]] rhyw filltir a hanner i'r gogledd o dref [[Llangollen]] yn [[Sir Ddinbych]].
Daw'r enw o [[Croes Eliseg|Groes Eliseg]] sydd heb fod ymhell o'r abaty. Mae'r groes yn llawer hŷn na'r abaty, a sefydlwyd yn [[1201]]. Sefydlwyd Glyn o Groes o [[Abaty Ystrad Marchell]] ger [[Y Trallwng]], dan nawdd [[Madog ap
Er fod yr abaty yn bur adfeiliedig, gellir gweld y cynllun yn glir. Mae'n dilyn y cynllun Sistersaidd arferol, gyda lle cysgu i tua 20 o fynachod ac efallai tua 40 o frodyr lleyg. Yn fuan wedi marwolaeth Madog ap Gruffydd Maelor, aeth yr abaty ar dân yn [[1236]] a bu cryn ddifrod; mae rhai o'r olion i'w gweld hyd heddiw. Dioddefodd ddifrod pellach yn ystod dau ymosodiad y brenin [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] ar Gymru yn [[1276]]-[[1277]] a [[1282]]-[[1283]]. Talwyd iawndal ac adferwyd y difrod, a bu gawith pellach ar yr adeilad dan yr Abad Adda yn nechrau'r [[14eg ganrif]]. Ymddengys i nifer y brodyr lleyg, ac efallai'r mynachod, leihau ar ôl [[Y Pla|y pla]] a newidiwyd yr adeiladau oherwydd hyn.
|