Bithynia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle}}
[[Delwedd:REmpire-29 Bithynia.png|300px|de|bawd|Talaith Rufeinig Bithynia.]]
 
Teyrnas a thalaith Rufeinig yn [[Asia Leiaf]] oedd '''Bithynia'''. Yn y dwyrain roedd yn ffinio ar [[Paphlagonia]], yn y gorllewin ar [[Mysia]] ac yn y de ar [[Phrygia]], [[Epictetus]] a [[Galatia]]. Roedd nifer o ddinasoedd pwysig ar lannau'r Propontis ([[Môr Marmara]] heddiw), yn cynnwys [[Nicomedia]], [[Chalcedon]], [[Cius]] ac [[Apamea (Bithynia)|Apamea]]. Yn Bithynia hefyd yr oedd [[Nicaea (dinas)|Nicaea]], a roddodd ei henw i [[Credo Nicea|Gredo Nicea]]. Mae'n ardal fynyddig, gyda mynyddoedd Olympus "Mysaidd" yn cyrraedd 2,300 medr (7,600 troedfedd).
 
[[Delwedd:REmpire-29 Bithynia.png|300px|decanol|bawd|Talaith Rufeinig Bithynia. yn yr Ymerodraeth Rufeinig]]
 
Yn ôl haneswyr fel [[Herodotus]], [[Xenophon]] a [[Strabo]], llwyth [[Thrace|Thraciaidd]] oedd y Bithyniaid yn wreiddiol. Roedd yr ardal yn rhan o deyrnas [[Lydia]] dan y brenin [[Croesus]], yna dan reolaeth yr [[Ymerodraeth Bersaidd]] pan orchfygwud Croesus gan y Persiaid. Mae'n ymddangos eu bod wedi dod yn deyrnas annibynnol hyd yn oed cyn i [[Alecsander Fawr]] orchfygu Persia.