Cappadocia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 8:
Ceir cofnodion am Cappadocia yng nghyfnod yr [[Ymerodraeth Bersaidd]], yn ystod teyrnasiad [[Darius I]] a [[Xerxes]], fel un o'r gwledydd oedd yn rhan o'r ymerodraeth. Yn ddiweddarach, rannwyd yr ardal yma yn ddwy [[satrapi]] gan y Persiaid, un yn dwyn yr enw Pontus a'r llall, yng nghanol Anatolia, yn dwyn yr enw Cappadocia.
 
[[Delwedd:Cappadocia (Imperium Romanum).png|bawd|chwithcanol|180px300px|Talaith Rufeinig Cappadocia. yn yr Ymerodraeth Rufeinig]]
 
Yn ddiweddarch, concrwyd yr ardal am gyfnod gan [[Perdiccas]], un o gadfridogion [[Alecsander Fawr]], ond llwyddodd i ennill ei hanibyniaeth yn weddol fuan. Pan ddechreuodd dylanwad [[Gweriniaeth Rhufain]] gyrraedd yr ardaloedd hyn, bu'r Cappadociaid mewn cynghrair a Rhufain yn erbyn yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]]. Cawsant gefnogaeth Rhufain yn erbyn ymosodiadau [[Mithridates VI, brenin Pontus]] a [[Tigranes Fawr]], brenin [[Armenia]]. Wedi i Rufain orchfygu'r ddau yma, daeth Ariobarzanes yn frenin Cappadocia dan nawdd Rhufain.