Istanbul: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rezabot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: kk:Ыстамбұл
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:IstanbulHaghiaSofia.jpg|bawd|right|200px|Tu mewn Mosg Aghia Sophia yn Istanbul]]
'''Istanbul''' ([[Twrceg]]: İstanbul, hefyd 'Stamboul; [[Cymraeg]]: '''Caergystennin''') yw dinas fwyaf [[Twrci]] a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i [[Ataturk]] ei symud i [[Ankara]] yn [[1923]], Istanbul oedd [[prifddinas]] y wlad. Yr hen enwau arni oedd [[Constantinople|Constantinopolis]] neu '''Constantinople''' ([[Groeg]]: ΚωνσταντινούποληΚωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn [[1930]], a [[Byzantium]] yng nghyfnod [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]]. Heddiw, mae tua 11 i 15 miliwn o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau [[Bosphorus|Culfor Bosphorus]] ac mae'n amgae'r [[harbwr]] naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, [[Saesneg]] ''Golden Horn''). Mae rhan o'r ddinas ar dir [[Ewrop]] ([[Thrace]]) a'r gweddill yn [[Asia]] ([[Asia Leiaf|Anatolia]]); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau [[Cyfandir|gyfandir]]. Mae'n brif ddinas [[Istanbul (talaith)|Talaith Istanbul]] yn ogystal.
 
Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair [[ymerodraeth]] wahanol, sef yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] ([[330]]-[[395]]), yr Ymerodraeth Fysantaidd ([[395]]-[[1453]]) ac [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] ([[1453]]-[[1923]]). Mae'r ddinas wedi cael ei dewis yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am [[2010]]. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at [[Safleoedd Treftadaeth y Byd|Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd]] [[UNESCO]] yn [[1985]].