Llain Gaza: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B [r2.6.5] robot yn newid: hy:Ղազայի հատված
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
[[Delwedd:Gaza City.JPG|bawd|250px|Canol Dinas [[Gaza]]]]
[[Delwedd:GazaBarrier.jpg|bawd|250px|Rhan o'r "Ffens Ddiogelwch" Israelaidd sy'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Israel a Llain Gaza]]
Llain o dir ar arfordir [[y Môr Canoldir]] yw '''Llain Gaza''' ([[Arabeg]]: قطاع غزة‎ ''Qitˁɑ'Qiṭāʿ Ġazzah/Qita' Ghazzah''; [[Hebraeg]]:רצועת עזה‎ ''Retzu'at 'Azza''), rhwng [[yr Aifft]] i'r de-orllewin ac [[Israel]] i'r gogledd a'r dwyrain. Mae'n un o'r [[Tiriogaethau Palesteinaidd]] sy'n destun [[Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd]]. O ran maint, mae cryn dipyn yn llai na Bwrdeisdref Sirol Conwy: rhwng 6 a 12 kilomedr o led a 25 kilomedr o hyd. Mae ganddo arwynebedd o 360 km sgwar ac mae 1.4 miliwn o [[Palesteiniaid|Balesteiniaid]] yn byw o fewn ffiniau'r diriogaeth hon. Yn hanesyddol mae gan y llain gysylltiadau cryf â'r [[Aifft]].
 
Daw ei enw o'r ddinas fwyaf yno, sef [[Gaza]]. Rheolir y llain gan lywodraeth [[Hamas]] ar hyn o bryd. Ffoaduriaid Palesteinaidd yw'r mwyafrif llethol o ddinesyddion Gaza. Mae rhai yn ei disgrifio fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd [[Maes Awyr Yasser Arafat]] ganddynt). I'r de, ar y ffina â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger [[Rafah]], ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.