Ysgol Friars, Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Sefydlwyd yr ysgol gan Geoffrey Glyn, doethur yn y [[cyfraith|gyfraith]] oedd wedi ei ddwyn i fyny yn [[Ynys Môn]], ac ar ôl addysg dda, wedi dilyn gyrfa llwyddiannus yn y gyfraith yn [[Llundain]].
[[Delwedd:Friars-speed1610.jpg|bawd|dde|200px|Darlun o'r ysgol ym map John Speed o 1610, yr unig ddelwedd o'r ysgol wreiddiol i oroesi]]
Roedd tŷ y [[Brodyr Duon]] wedi bodoli ym Mangor ers y [[13eg ganrif]], yn dilyn athrawiaeth [[Dominic]], ond yn oes [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymu’r mynachlogydd]], daeth ei gyfnod i ben ym [[1538]]. Roedd Geoffrey Glyn wedi prynu’r safle gyda’r bwriad o sefydlu ysgol ramadeg yno. Yn ei ewyllys dyddiedig [[8 Gorffennaf]] [[1557]] , gadawodd yr eiddo ynghyd ag eiddo cystlltiedig oedd i ffurfio cronfa gwaddol i gynnal yr ysgol, er mwyn sefydlu’r ysgol.
 
Er bod yr ysgol wedi bod yn cyfarfod yn y ddinas cyn hyn, crëwyd yr ysgol yn swyddogol pan dderbyniodd breinlythyr gan [[Elisabeth I o Loegr|Elisabeth I]] ym [[1561]]. Yn ffurfiol, enw’r ysgol oedd ''The free grammar school of Geoffrey Glyn, Doctor of Laws'', ond oherwydd y cysylltiad agos ac amlwg gyda thŷ’r Brodyr, fe’i adwaenwyd yn gyffredin fel ysgol "Friars". Roedd y breinlythyr yn sefydlu Deon a Chabidwl [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] fel corfforaeth i lywodraethu’r ysgol. Ym [[1568]], mabwysiadwyd ystadudau’r ysgol, yn seiliedig ar ystatudau ysgol Bury St. Edmunds yn [[Suffolk]].