Morisgiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mwslemiaid a orfodwyd i gyffesu Cristnogaeth ar ôl i frenhinoedd Castille oresgyn teyrnasoedd Mwslemaidd de Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol oedd y '''Mor...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Islam|Mwslemiaid]] a orfodwyd i gyffesu [[Cristnogaeth]] ar ôl i frenhinoedd [[Castille]] oresgyn teyrnasoedd Mwslemaidd de [[Sbaen]] ar ddiwedd yr [[Oesoedd Canol]] oedd y '''Morisgiaid''' ([[Sbaeneg]], enw unigol, ''MorisgoMorisco'').
 
Roedd nifer o Fwslemiaid yn ardaloedd fel [[Andalucia]] yn dal i fyw yn Sbaen ar ôl y goresgyniad. Yn ystod y [[15fed ganrif]] fe'u gorfodwyd i dderbyn Cristnogaeth neu ffoi i alltudiaeth. Dewisai nifer aros yn Sbaen a chyffesu Cristnogaeth yn gyhoeddus tra'n proffesu Islam yn eu tai. Ar ddechrau'r [[16eg ganrif]] penderfynodd llywodraeth Sbaen eu troi nhw allan o'r wlad ac rhwng [[1609]] a [[1614]] gorfodwyd tua 500,000 ohonyn nhw i ffoi. Ymsefydlodd y mwyafrif yn y [[Maghreb]] ([[gogledd Affrica]]). Gwnaethent gyfraniad arbennig i ddiwylliant y gwledydd hynny, yn arbennig yn [[Tunisia]], gan dod â cherddoriaeth a pensaernïaeth arbennig gyda nhw, ffrwyth y croesffrwythloni rhwng y traddodiadau Islamaidd a Christnogol yn ne Sbaen.