Maelgwn Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 12:
== Chwedlau am Maelgwn ==
 
Un chwedl am Maelgwyn yw ei fod wedi rhoi sialens i frenhinoedd eraill Cymru i gystadleuaeth i benderfynu pwy fyddai ben ar y gweddill. Awgrymodd fod pob brenin yn eistedd ar gadair ar y traeth pan oedd y llaw'n dod i mewn. Byddai'r brenin allai aros ar ei gadair hwyaf yn dod yn ben ar y gweddill. Gorfododd y llanw i'r brenhinoedd eraill adael ei cadeiriau, ond yr oedd Maelgwn wedi trefnu i gael gwneud cadair fyddai'n nofio, felly enillodd trwy ystryw. Ceir chwedl gyffelyb am y brenin [[Daniaid|Danaidd]] [[Cnut]] yn [[Lloegr]].
 
Mae yna gysylltiad cryf rhwng Maelgwn Gwynedd a'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]]. Roedd [[Elffin ap Gwyddno]] yn garcharor gan y brenin ac ymwelodd Taliesin â'i lys yn Negannwy i'w ryddhau. Cafodd [[ymryson barddol]] â [[bardd llys|beirdd llys]] Maelgwn.
 
Mae traddodiad arall yn cysylltu Maelgwn â math o [[eisteddfod]] gynnar. Fel rhan o'r ornest bu rhaid i'r beirdd druain nofio [[Afon Conwy]]. Mae'r chwedl honno'n awgrymu cysylltiad rhyngddo a [[bryngaer]] [[Caer Seion]] hefyd.
 
Un peth sy'n cael ei dangos yn glir gan y traddodiadau hyn a 'hanes' Gildas yw bod Maelgwn yn frenin nerthol gydag awdurdod eang a'i fod yn noddwr pwysig i'r beirdd.
 
== Cyfeiriadau ==