Maelgwn Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 14:
Un chwedl am Maelgwyn yw ei fod wedi rhoi sialens i frenhinoedd eraill Cymru i gystadleuaeth i benderfynu pwy fyddai ben ar y gweddill. Awgrymodd fod pob brenin yn eistedd ar gadair ar y traeth pan oedd y llaw'n dod i mewn. Byddai'r brenin allai aros ar ei gadair hwyaf yn dod yn ben ar y gweddill. Gorfododd y llanw i'r brenhinoedd eraill adael ei cadeiriau, ond yr oedd Maelgwn wedi trefnu i gael gwneud cadair fyddai'n nofio, felly enillodd trwy ystryw. Ceir chwedl gyffelyb am y brenin [[Daniaid|Danaidd]] [[Cnut]] yn [[Lloegr]].
 
Yn ôl traddodiad rhoddodd Maelgwn un rhan o [[Ynys Môn]] i Sant [[Cybi]] a'r llall i [[Seiriol]]. Dywedir iddo gael ei gladdu ar [[Ynys Seiriol]]. Efallai fod y disgrifiad ohono fel ''Insula draco'' ('Draig yr Ynys', sef 'brenin yr ynys') yngan hanes [[Nennius]]Gildas yn cyfeirio at y ffaith fod Môn yn ei feddiant.
 
Mae yna gysylltiad cryf rhwng Maelgwn Gwynedd a'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]]. Roedd [[Elffin ap Gwyddno]] yn garcharor gan y brenin ac ymwelodd Taliesin â'i lys yn Negannwy i'w ryddhau. Cafodd [[ymryson barddol]] â [[bardd llys|beirdd llys]] Maelgwn.