Cwpan Eingl-Gymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
 
==Hanes==
Ffurfiwyd y gystadleuaeth yn nhymor 2005-2006 â'r bwriad o adfer yr ymryson rhwng y clybiau Saesneg a'r rhanbarthau Cymreig. Mae'r cwpan wedi ei strwythuro i mewn i rownd grŵp (lle mae'r grwpiau wedi eu trefnu i finimeiddio'r pellter teithio rhwng y tîmau, ac i gadw'r timau Cymraeg ar wahân) ac yna dau rownd ''knock-out'' i benderfynu'r ennillydd. Bydd y tîmau o fewn pob grŵp yn chwarae eu gilydd dim ond unwaith i leihau'r effaith ar amserlenni'r [[GunnessGuinness Premiership]] a'r [[Cynghrair Celtaidd]].
 
Bu tipyn o ymryson ynglŷn a effaith y gystadleuaeth ar gystadleuthau eraill y tîmau Cymraeg a Saesneg. Ar ôl i [[Undeb Rygbi Cymru]] gyrraedd cytundeb â [[Undeb Rygbi Lloegr]] ynglŷn â'r gystadleuaeth, diarddelwyd rhanbarthau Cymru dros dro o'r gynghrair Celtaidd oherwydd y grêd y byddai ymglymiad rhanbarthau Cymru i'r Cwpan Eingl-Gymreig yn datbrisio'r gynghrair. Er hynny, dychwelodd y rhanbarthau Cymraeg yn ôl i'r gynghrair wedi cytundeb a fyddai'n osgoi chwarae gemau Eingl-Gymreig ar benwythnosau a dyrranwyd yn wreiddiol i'r gynghrair Celtaidd.