Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tudweiliog"

Ychwanegwyd 7 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Pentref bychan ar arfordir ogleddol [[Penrhyn Llŷn]], [[Gwynedd]], [[Cymru]], gyda'r mwyafrif o'r boblogaeth yn [[Gymraeg]]-gyntaf eu hiaith yw '''Tudweiliog'''. Mae [[amaethyddiaeth]] yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda [[Twristiaeth|thwristiaeth]] yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, [[eglwys]], [[capel]] ac [[ysgol]] gynradd (presennol) sydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn [[2007]]. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a [[Pwllheli|Phwllheli]], sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir [[Gwynedd]], ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Coetan Arthur ([[cromlech]]) ar [[Mynydd Cefnamwlch]], olion cymuned o [[Oes yr Haearn]] ar gopa fynydd [[Carn Fadryn]], traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol [[Porth Ysgaden]], [[Porth Colmon]] yn [[Llangwnnadl /(gweler [[Llangwnadl]]0, a [[Porth Gwylan|Phorth Gwylan]] sydd dan ofalaeth yr [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].
 
{{Trefi Gwynedd}}
13

golygiad