Chwarel y Penrhyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 21:
 
Ffurfiwyd [[Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru]] yn 1874, a’r un flwyddyn bu anghydfod diwydiannol yn Chwarel y Penrhyn, a ddiweddodd mewn buddugoliaeth i’r gweithwyr. Yn 1885 cymerodd [[George Sholto Gordon Douglas-Pennant]] yr awenau yn lle ei dad, a’r flwyddyn wedyn apwyntiwyd E. A. Young yn rheolwr. Gwaethygodd y berthynas a’r gweithwyr, ac ym mis Medi 1986 dechreuodd anghydfod a ddisgrifid gan y rheolwyr fel streic, tra dywedai’r gweithwyr eu bod wedi eu cloi allan o’r chwarel. Aeth y gweithwyr yn ol i’r chwarel yn Awst 1897, fwy neu lai ar delerau Arglwydd Penrhyn.
Ar 22 Tachwedd 1900 dechreuodd ail streic (neu ail gloi-allan), a barhaodd am dair blynedd. Roedd yr achosion yn gymhleth, ond roeddynt yn cynnwys cynnydd yn yr arfer o osod rhannau o’r chwarel i gontractwyr.Yn hytrach na chytuno ar eu bargeinion eu hunain, roedd y chwarelwyr wedyn yn gweithio am gyflog i’r contractwyr. Nid oedd gan yr undeb ddigon o arian i dalu tal streic digonol, a bu cyni mawr ymysg y 2,800 o weithwyr. Ail agorodd Arglwydd Penrhyn y chwarel ym mis Mehefin 1901, a dychwelodd tua 500 o weithwyr iddi. Ystyrid hwy yn “Fradwyr” gan y gweddill. Yn y diwedd bu raid i’r gweithwyr ddychwelyd i’r chwarel ym mis Tachwedd 1903 ar delerau Arglwydd Penrhyn. Gwrthodwyd ail-gyflogi llawer o’r gweithwyr oedd wedi bod yn amlwg yn yr undeb, a dadawoddgadawodd llawer o weithwyr yr ardal yn barhaol. Gadawodd yr anghydfod etifeddiaeth o chwerwder yn ardal Bethesda.
 
Mae Chwarel y Penrhyn y parhau i gynhyrchu llechi, ond ar raddfa llawer llai nag yn ystod oes aur y diwydiant. Yn 1995, cynhyrchai bron 50% o gynnyrch llechi y Deyrnas Unedig. Eiddo Alfred McAlpine PLC yw’r chwarel bellach.