Yng Nghymru, maes glo'r de oedd cadarnle y'r Siartwyr. Yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], y Siartydd mwyaf amlwg oedd [[Hugh Williams]], a oedd yn frawd yng nghyfraith i [[Richard Cobden]], y gwleidydd [[Radicaliaeth|radicalaidd]]. Yn [[Llanelli]] yr oedd [[David Rees]] golygydd ''[[Y Diwygiwr]]'' yn ffigwr amlwg. Ym [[Merthyr Tudful]], roedd [[Morgan Williams]]; yr enwog Dr [[Willliam Price]] o [[Llantrisant|Lantrisant]]; a [[John Frost]] yn [[Sir Fynwy]]. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn [[Neuadd y Sir, Trefynwy]] i'w crogi a'u chwarteru.