Caer-went: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B ehangu
Llinell 1:
Mae '''Caerwent''' ( weithiau '''Caer-went''') yn bentref yn [[Sir Fynwy]], de-ddwyrain [[Cymru]]. Pan goncrwyd llwyth y [[Silwriaid]] gan y [[Rhufeiniaid]], crewyd canolfan a thref farchnad iddynt dan yr enw ''Venta Silurum'' yn fuan wedi'r flwyddyn [[78]] gan y Llywodraethwr Rhufeinig [[Julius Frontinus]]. ''Venta Silurum'' yw'r dref Rufeinig y gwyddir fwyaf amdani yng Nghymru, a'r ail fwyaf adnabyddus ym [[Prydain|Mhrydain]] ar ôl [[Calleva Atrebatum]] ([[Silchester]]).
 
Roedd y dref Rufeinig yn dilyn y patrwm arferol, gyda dwy brif ffordd yn ffurfio croes a mur a ffos o'i hamgylch. Gydag arwynebedd o 300 - 350 medr sgwar roedd yn dref gymharol fechan. Yn y canol roedd y [[ForumFforwm]], gyda sgwar agored a siopau a [[Basilica]] o'i amgych. I'r dwyrain o'r ForumFforwm mae [[teml]] Rufeinig, oedd mae'n debyg wedi ei chysegru i'r duw [[Mawrth (duw)|Mawrth]], ac i'r gogledd mae [[Amffitheatr]]. Yr oedd o leiaf ddau faddondy yn y dref. Ar bob ochr i'r briffordd a redai drwy'r dref roedd yna resi o siopau a sawl teml. Mae darnau sylweddol o'r mur Rhufeinig i'w gweld o hyd, hyd at 5 medr o uchder mewn mannau. Atgyfnerthwyd y muriau hynny â thyrau lle y cedwid arfau. Y tu allan i'r muriau y ceid y mynwentydd. Mae tai y pentref modern yn gorchuddio rhan o'r hen safle Rufeinig.
 
Credir i'r boblogaeth adael y dref yn y bumed ganrif, fel gyda llawer o ddinasoedd a threfi Rhufeinig Prydain, ond mae'n bosibl i Gaerwent barhau fel canolfan i [[Teyrnas Gwent|Deyrnas Gwent]] ar ôl y cyfnod Rhufeinig. Sefydlwyd [[clas]] yng Nghaerwent gan sant o [[Gwyddelod|Wyddel]] o'r enw [[Tatheus]] tua'r 5fed ganrif. Ar ôl y [[Concwest Normanaidd|Goncwest Normanaidd]] codwyd [[castell mwnt a beili]] ar y safle.
 
===Darllen pellach===
*O.E. Craster, ''Caerwent Roman City'' (HMSO, Llundain, 1951; sawl argraffiad ers hynny)
 
{{Trefi Sir Fynwy}}
 
[[Categori:Pentrefi Sir Fynwy]]
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:YrCyfnod Ymerodraethy RufeinigRhufeiniaid yng Nghymru]]
 
 
[[de:Venta Silurum]]