Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rygbi'r undeb"

Lleihawyd o 22 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
diddolennu
(un)
(diddolennu)
Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.
 
Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad]] yn [[Ewrop]] a'r [[''Tri Nations]]'' yn hemisphere y de yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys y 14 Uchaf yn [[Ffrainc]], y Guinness Premiership yn Lloegr, y Cwpan Currie yn [[De Affrica|Ne Affrica]], a'r Cwpan Air New Zealand yn [[Seland Newydd]]. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y [[Cynghrair Magners|Gynghrair Magners]] (sef cystadleuaeth rhwng y gwledydd Celtaidd), sy'n cynnwys y Gwyddelod, Albanwyr a'r Cymry; y Super 14, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r [[Cwpan Heineken]], sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.
 
Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.