Cyngor Cymru a'r Gororau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Titus Gold (sgwrs | cyfraniadau)
enw arall
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
== Hanes ==
=== Y 15fed ganrif ===
Yn wreiddiol bu'r cyngor yn gyfrifol am weinyddu tiroedd [[Tywysogaeth Cymru]] a oedd yn dod o dan reolaeth y Goron o ganlyniad i oresgyniad 1282. Cafodd ei phenodi am y tro cyntaf gan y [[Edward IV, brenin Lloegr|Brenin Edward IV]] ym [[1472]] fel corff i gynghori a gweithredu ar ran ei fab, y baban Edward, Tywysog Cymru. Ar y pryd roedd y Brenin Edward newydd ei adfer i'r frenhiniaeth yn ystod [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]] a roedd y rhan fwyaf o arglwyddiaethau'r Mers, o fewn ac ar ffiniau Cymru, yn gynghreiriaid iddo. Sefydlodd ei fab yng Nghastell Llwydlo, gan benodi ei gyfeillion triw, teuluoedd Woodville a Stanley i fod yn ffigurau blaenllaw ar y Cyngor.<ref>The Court of the President and Council of Wales and the Marches, from 1478-1575, David Lewis (1897)</ref>
 
Llinell 21:
Er bod mwyafrif y cynghorwyr yn foneddigion a chlerigwyr o'r Mers, doedd y siroedd Saesnig ddim yn or-hoff o gael eu rheoli ar y cyd â Chymru a bu sawl ymgais ganddynt i gael eu rhyddhau o'i ddylanwad. Llwyddodd Dinas [[Bryste]] i ymeithrio o ddylanwad y Cyngor ym 1562 a [[Swydd Gaer]] ym 1569; methodd cais [[Caerwrangon]] i gael ei rhyddhau ym 1576.
 
===Y 17eg Ganrifganrif===
Cyrhaeddodd prysurdeb y Cyngor ei hanterth rhwng 1610 a 1620 pan glywodd dros 1,200 o achosion y flwyddyn.<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'', tud 262(Llundain: Allen Lane, 1990), ISBNt.262 10: 0713990112</ref>.
 
Diddymwyd y Cyngor yn ystod cyfnod [[Rhyfel Cartref Lloegr]] a'i hail adfer ar ôl i [[Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl II]] ddychwelyd i'r orsedd ym 1660. Cafodd y Cyngor ei ddiddymu'n llwyr ar [[25 Gorffennaf]] [[1689]] yn dilyn y [[Chwyldro Gogoneddus]] ym 1688 a ddymchwelodd teyrnasiad [[Iago II & VII, brenin Lloegr a'r Alban|Iago II]] ac a sefydlodd [[Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban|William III (William o Orange)]] fel brenin.<ref>[http://www.bbc.co.uk/blogs/wales/entries/c63da957-f067-3e3a-bbcc-1d91dd3166d4 BBC The Council of Wales and the Marches] adalwyd 17 Mehefin 2016</ref>
Llinell 28:
==Gweler hefyd==
[[Rhestr o Lywyddion ac is Lywyddion Cyngor Cymru a'r Gororau]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}