Ikurrina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Flag of the Basque Country.svg|350px|de|Baner Gwlad y Basg: yr Ikurrina]]
 
'''Ikurrina''' yw'r enw ar faner [[Gwlad y Basg]]. Fe'i sillefir fel "Ikurrina" yn y [[Basgeg]]<ref name=EuskaltzaindiaIkurrina>Euskaltzaindia: [http://www.euskaltzaindia.net/dok/eaeb/hiztegibatua/hiztegibatua.pdf Geiriadur Basgeg Safonol], adalwyd 2010-10-04.</ref> ac "Ikurriña" yn y [[Sbaeneg]]<ref>''Real Academia Española (2001)'': [http://lema.rae.es/drae/?val=ikurri%C3%B1a «ikurriña»], ''Diccionario de la Lengua Española'', Cyfrol 22, ar gael ar-lein. Adalwyd 2014-03-30.</ref>. Defnyddir yr enw fel y gelwir baner [[Yy Ddraig Goch]] ar faner Cymru neu'r ''Stars and Stripes'' ar faner [[UDA]]. Mae'n faner swyddogol ar [[Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg]] (Euskadi) ond cydnabyddir hi'n gyffredinol fel baner i bob un o 7 talaith [[Gwlad y Basg]] (Euskal Herria) er bod peth anghydfod yn ei chylch yn nhalaith Nafar ([[Navarra]] yn Sbaeneg, Nafaroa yn Basgeg).
 
==Yr Enw==
Bathwyd y gair 'Ikurriña' gan y ddau frawd [[Cenedlaetholdeb Basgaidd|cenedlaetholgar]], Luis a [[Sabin Arana]], a sefydlodd blaid genedlaethol yr EAJ-PNV ac a fathodd nifer helaeth o eiriau Basgeg.
 
Defnyddiwyd y gair Basgeg ''ikur'' ('arwydd' neu 'faner') ond golyga lawer mwy na hyn: baner cenedlaethol y Basgiaid. Yn hyn o beth mae'n debyg i'r ffordd y mae geiriad generig am faner yn [[Catalwnia]], ''Senyera'' a baner Ynysoedd y Ffaroe, ''[[Merkið]]'' yn enwau ar faneri y gwledydd hynny. Roedd sillafiad gwreiddiol y brodyr Arana yn seiliedig ar dafodiaith talaith BaskaiaBizkaia, sef ''ikuŕiñ''. Mae'r gair yma bellach wedi ei safoni yn y Fasgeg gyfoes i ''ikurrin''. Yn y Fasgeg dynodir y fanod ar ddiwedd y gair gyda'r lythyren 'a'. Ystyr ikurrina felly, yw 'Y Faner'.<ref name=EuskaltzaindiaIkurrina />
 
==Dyluniad==
Dyluniwyd y faner gan y brodyr Luis a Sabin Arana. Mae'n debyg iawn i faner y Deyrnas Unedig ac mae'n bosib y byddai rhai pobl yn ei chamgymryd am fersiwn Gymreig o faner '[[Jac yr Undeb]]'.
 
Mae'r coch yn symbol o bobl BiskaiaBizkaia, y gwyrdd yn symbol o gryfder [[coeden dderw Gernika]], sydd ei hun yn symbol o hen gyfreithiau BaskaiaBizkaia a'r Basgiaid, y 'Fueros'. Dros y saltire, ceir croes wen, symbol o ymlyniad y Basgiaid i'r ffydd Gatholig. Cysylltir y lliwiau erbyn hyn yn lliwiau cenedlaethol y Basgiaid.
 
==Hanes==
Dyluniwyd y faner yn 1894 fel baner Plaid Genedlaethol y Basgiaid, y EAJ-PNV, ar gyfer talaith BiskaiaBizkaia, gyda'r disgwyl y byddai baner arall ar gyfer yr holl diriogaeth Basgaidd eraill yn cael ei chreu. Gan mai yn y dalaith honno roedd y PNV gryfaf dyna'r faner a ddefnyddiwyd helaethaf ganddi a gydag amser daeth i'w hystyried fel baner ar gyfer yr holl daleithiau. Fe'i chwifiwyd gyntaf yn yr "Euzkeldun Batzokija", y gymdeithas wleidyddol a ragflaenodd yr EAJ-PNV. Mabwysiadwyd y faner gan y blaid newydd yn 1895 ac yn 1933 fe'i cynigiwyd fel baner ar gyfer yr holl wlad.
 
Oherwydd poblogrwydd y faner fe gynigiodd y gwleidydd sosialaidd, Aznar hi fel baner Rhanbarth Hunanlywodraethol Basg yn 1936. Defnyddiwyd y faner hefyd fel jac forwrol gan Lynges Achlysurol Gwlad y Basg oedd yn rhan o lynges y Weriniaeth a oedd yn weithredol ym [[Bae BiskaiaBizkaia|Mae Bisgai]] yn ystod [[Rhyfel Cartref Sbaen]].
 
Yn 1938, wedi i'r Cadfridog [[Francisco Franco|Franco]] guro Llywodraeth Weriniaethol Sbaen, fe waharddwyd y faner, er iddi barhau i gael ei defnyddio gan y Basgwyr o fewn Iperralde (tair sir gogleddol y Basgiaid o fewn gwladwriaeth Ffrainc). Dros y degawdau a ddilynodd daeth yn symbol o wrthwynebiad y Basgwyr i lywodraeth asgell dde, genedlaetholaidd Sbaenaidd Franco ac fe'i defnyddiwyd gan fudiad terfysgol ETA fel baner o wrthryfel.
Llinell 54:
File:Batasuna.svg|Addasiad ar logo plaid asgell chwith [[Herri Batasuna]] - a ysbrydolwyd gan yr Ikurriña.
File:Oiartzunen nafar ekitaldia.jpg|Marchogion gyda baner Navarre, ''ikurrina'' a'r ''Arrano Beltza''.
File:Abadiño bandera 2.JPG|Ymdaith yn [[Abadiño]], [[BiskaiaBizkaia]]
</gallery></center>